Cymorth - Gweddarllediadau Cyngor Gwynedd

Cymorth 

Gorolwg o'r Chwaraewr

Manylion technegol

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Gorolwg o'r Chwaraewr

Chwaraewr Public-i Connect Player

Mae'r Chwaraewr Public-i Connect Player yn galluogi gwylwyr i lywio trwy'r gweddarllediadau byw a'r rhai wedi'u harchifo drwy ddefnyddio pwyntiau cyfeirio a gwybodaeth ategol ar ffurf dolenni gwe, dogfennau a chyflwyniadau wrth wylio'r gweddarllediad.

Gall gwylwyr hefyd roi adborth drwy ddefnyddio'r ffurflen adborth neu gwblhau arolwg pan fyddant ar gael drwy'r Chwaraewr a'r wybodaeth mynediad ynglyn â chyfranwyr unigol yn y gweddarllediad. Mae'r Chwaraewr yn chwarae naill ai fersiwn graffig cyfoethog neu'r fersiwn testun yn unig sydd â mynediad llawn.

Bydd gweddarllediadau wedi'u harchifo'n rhestru'r Rhaglen (os oedd rhaglen ar gael ar gyfer y cyfarfod). Os bydd y gweddarllediad yn cynnwys pwyntiau Rhaglen, cliciwch ar y pwyntiau i neidio i'r rhan honno o'r cyfarfod; os yw'n cynnwys Proffiliau Siaradwyr, gallwch hefyd glicio ar enw i neidio i'r pwynt yn y gweddarllediad lle mae'r unigolyn hwnnw'n siarad.

Yn ôl i'r brig

Chwilio am weddarllediad

Mae tudalen gartref Connect yn dangos gorolwg o unrhyw gweddarllediadau byw, rhai bydd ar gael yn y dyfodol neu'r rhai diwethaf.

Cliciwch ar y llyfrgell i weld yr holl gweddarllediadau ynghyd â Chwmwl Tagio i ddangos cynnwys y cyfarfodydd hynny.

I ddod o hyd i gweddarllediadau yn ol pwnc, cliciwch ar air allweddol yn y Cwmwl Tagio i hidlo'n briodol.

Gallwch ddod o hyd i gweddarllediadau drwy'r teitl drwy ddefnyddio'r adnodd chwilio yn y ddewislen a gallwch ddod o hyd i weddarllediad drwy chwilio am deitl, dyddiad neu air allweddol (defnyddiwch lythrennau bach i gyd).

Yn ôl i'r brig

Gwylio gweddarllediad

I wylio gweddarllediad, cliciwch ar deitl y gweddarllediad naill ai ar dudalen gorolwg neu'r llyfrgell; bydd hyn yn dechrau Chwaraewr Public-i Player mewn ffenestr arall. Bydd y gweddarllediad yn dechrau'n awtomatig - efallai bydd yn cymryd cwpwl o eiliadau.

Yn ôl i'r brig

Gweddarllediadau byw wedi'u harchifo

Dim ond yr wybodaeth gyfredol a welir yn ystod gweddarllediadau byw, nid oes modd neidio nôl i ran flaenorol o'r cyfarfod pan ddangosir yn fyw.

Mae'r gweddarllediadau sydd wedi eu harchifo yn galluogi'r gwyliwr i lywio i unrhyw bwynt yn y gweddarllediad drwy ddefnyddio pwynt cyfeirio neu'r bar sgrôl a welir o dan y fideo.

Mae gwybodaeth am yr unigolion a gyfranodd yn ystod y cyfarfod (proffiliau'r siaradwyr) ar gael yn dilyn archifo.

Yn ôl i'r brig

Hygyrchedd: Alla i ddefnyddio'r bysellfwrdd i reoli y chwaraewr?

Sicrhewch fod y chwaraewr fideo 'mewn ffocws' cyn defnyddio'r byselli isod (defnyddiwch bysell tab y bysellfwrdd neu'r llygoden i'w ddewis). Chwarae / stopio: bar gofod. Llam yn ôl / ymlaen drwy'r fideo: bysellau saeth chwith / dde. Sain i fyny / i lawr: byselli saeth i fyny / i lawr- Mudo: bysell 'm'. Sgrîn lawn: bysell 'f'

Bysellau llwybr byr

Bysell llwybr byr Cam gweithredu
Bylchwr Yn dechrau ac yn stopio chwarae
Bysellau saethau chwith a dde Yn neidio ymlaen ac yn ôl drwy’r fideo
Bysellau saethau i fyny ac i lawr Yn cynyddu ac yn gostwng lefel y sain
Bysell F Yn dechrau chwarae sgrin lawn a’i ddiffodd
Bysell M Yn diffodd ac yn rhoi’r sain ymlaen
Bysell S Yn diffodd ac yn rhoi isdeitlau ymlaen

Rheolyddion chwarae fideo

Rheolaeth a ddewiswyd Cyffwrdd bysell Cam gweithredu
Botwm chwarae Bylchwr Yn dechrau ac yn stopio chwarae
Siaradwr Bylchwr Yn diffodd ac yn rhoi’r sain ymlaen
Bar cynnydd Bysellau saethau chwith a dde Yn neidio ymlaen ac yn ôl drwy’r fideo
HD Bylchwr Yn newid i fersiwn HD y gweddarllediad, os oes un ar gael
Gosodiadau Bylchwr Yn agor a chau’r panel Gosodiadau
Sgrin lawn Bylchwr Yn newid i chwarae ar sgrin lawn - pwyswch Esc i gau’r modd chwarae sgrin llawn

Yn ôl i'r brig

Llywio drwy'r gweddarllediad

Mae dwy ffordd gall gwyliwr neidio i ran arall o'r gweddarllediad. Gellir defnyddio'r bar sgrolio a welir o dan y fideo i neidio ymlaen neu yn ôl i amser penodol o'r gweddarllediad. Yn ddefnyddiol iawn, gall y defnyddiwr neidio i bwynt ar yr agenda a/neu enw siaradwr ar y pwynt cyfeirio sy'n golygu gallu gweld materion o ddiddordeb yn syth.

Yn ôl i'r brig

Ffurflen adborth

Bydd unrhyw adborth a roir ar y ffurflen adborth yn cael ei anfon yn syth i'r sefydliad sy'n darparu'r gweddarllediad a fydd yn cael ei anfon i'r person priodol i ddelio gyda'r ymholiad. Mae Public-i yn monitro'r adborth am faterion technegol.

Yn ôl i'r brig

Rhannu cod plannu ar y teclyn

Mae modd rhannu tudalennau, teclynnau a Phwyntiau Agenda unigol dros e-bost, dolen URL ac amryw rwydweithiau cymdeithasol.

Gallwch rannu Pwyntiau Agenda cyfan neu eitemau oddi fewn iddynt drwy ddefnyddio'r botwm rhannu. Bydd rhannu Pwynt Agenda'n gosod man cychwyn y fideo'n awtomatig.

Mae modd newid hyn os oes angen.

Yn ôl i'r brig

Sut ydw i’n lawrlwytho gweddarllediad?

Gallwch lawrlwytho rhai cyfarfodydd i'w gwylio oddi ar-lein.

Cliciwch ar yr eicon Lawrlwytho ar waelod y ffenestr fideo ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffenestr naid.

Yn ôl i'r brig

Geotagging' Tagio eitemau o agenda'r gweddarllediad

Os oes gan unrhyw eitem ar yr agenda gyswllt â lleoliad daearyddol, bydd glôb bach yn ymddangos ar y sgrin ger yr eitem a phan fyddwch yn clicio arno, ymddengys ar fap yn y Chwaraewr Public-i i'r dde o'r fideo.

Yn ôl i'r brig

Cael eich hysbysu am weddarllediadau newydd

Os hoffech chi gael y gweddarllediadau diweddaraf sydd o ddiddordeb i chi, mae dwy ffordd o wneud hynny:

- y ffordd hawsaf yw clicio ar y botwm Tanysgrifio, dewiswch y testunau sydd o ddiddordeb i chi ac yna chlicio ar y botwm Tanysgrifio

- fel arall, gallwch chi ddefnyddio'r botwm RSS a dilyn y cyfarwyddiadau i bastio'r ddolen i'ch hoff ddarllenydd newyddion RSS

Yn ôl i'r brig

Cwmwl Tagio

Mae'r cwmwl tagio yn dangos y tagiau sydd wedi eu dynodi i'r gweddarllediad, gyda'r tagiau mwyaf poblogaeth yn fwy o ran maint.

Wrth glicio ar y tagiau, bydd modd hidlo'r darllediad yn unol â'r tagiau.

I ddileu'r hidlydd, cliciwch ar 'Tynnu'r hidlydd', dolen ar frig y dudalen.

Yn ôl i'r brig

Manylion technegol

Manyleb y cyfrifiadur

Gall y rhan fwyaf o ddyfeisiau modern ddangos gwe-ddarllediadau. Mae ein chwaraewr yn defnyddio technoleg porwr HTML5 i ddangos y fideo. Rhaid galluogi cwcis a Javascript ar y porwr.

Os ydych yn defnyddio fersiwn 8 neu 9 Internet Explorer, mae'n bosib na fydd ambell beth ar y wefan a'r chwaraewr fideo'n gweithio'n iawn. Mae angen Chwaraewr Flash Media hefyd i weld gwe-ddarllediadau yn y porwyr hyn.

Dyfais Cymorth porydd
Cyfrifiadur pen-desg neu liniadur Internet Explorer 11 (Win 7), Internet Explorer 11 (Win 8.1+), Edge, Chrome 8+, Firefox 6+, Opera 15+, Vivaldi, Safari 8+
Dyfeisiau symudol Chrome ar gyfer Android, Firefox ar gyfer Android, Opera ar gyfer Android, Safari ar gyfer iOS, Chrome ar gyfer iOS, Opera ar gyfer iOS, Internet Explorer ar gyfer Windows Phone 8.1+, Edge ar gyfer Windows Phone 10+

Nid oes angen atodiad ar gyfer chwaraewr y Gweddarllediad, mae’n gweithredu allan o’r bocs gyda safonau agored (HTML5).

Yn ôl i'r brig

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Pam na allaf glywed y darlledu?

Y rheswm pennaf am ddiffyg sain yw nad yw'r person sy'n siarad wedi troi'r meicroffon ymlaen. Ond mae'n bwysig sicrhau fod gan eich cyfrifiadur fodd o gyfleu'r sain drwy gerdyn sain i naill seinydd neu glustffonau. Gellir troi lefel sain y darlledu i fyny neu i lawr drwy'r botwm lefel sain a welir o dan y fideo, a dylid gwneud yn siwr nad yw'r sain wedi ei dawelu, os ceir unrhyw broblemau. Yn olaf, dylid gwirio'r cyfrifiadur i wneud yn siwr fod y sain yn uchel ar y cyfrifiadur a'r seinydd. Oherwydd y systemau sain a ddefnyddir gan nifer o'n cleientiaid, gall y sain fod ychydig yn dawelach na'r hyn a ddisgwylir.

Pethau eraill i’w gwirio yw:

  1. Gwneud yn siŵr y gall eich cyfrifiadur chwarae sain a bod gennych chi naill ai uned sain neu bâr o glustffonau wedi eu plygio i mewn
  2. Gwnewch yn siŵr fod rheolydd sain eich cyfrifiadur ac/neu'r unedau sain wedi ei godi i’r lefel priodol
  3. Mae rheolydd sain ar y chwaraewr Gweddarllediadau nesaf at y botwm ‘play’ – gwnewch yn siŵr nad yw’r sain wedi’i ddiffodd a cheisiwch symud y llithrydd sain i’r dde

Nodyn: Mae rhai gweddarllediadau yn defnyddio systemau sain sy’n ddistaw yn gynhenid, felly bydd angen i chi wneud yn iawn am hynny drwy godi lefel y sain ar eich pen chi.

Yn ôl i'r brig

Pam na allaf weld y darlledu?

Mae sawl rheswm pam nad ydych o bosibl yn gallu gwylio gweddarllediad, gan gynnwys:

  1. Rydych yn ceisio ei wylio yn y gwaith ac mae eich cwmni yn atal ffrydio fideo.
  2. Rydych yn ceisio gwylio gweddarllediad nad yw ar gael eto
  3. Mae problem gyda’r gweddarllediad ei hun (os ydych chi’n credu fod hyn yn wir, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio’r ffurflen Adborth).

Yn ôl i'r brig

Pam fod y llun wedi rhewi neu'n aneglur?

Fel arfer mae hyn yn cael ei achosi gan gysylltiad araf â'r we. Er bod gwe-ddarllediadau Public-i wedi'u hamgodio i alluogi defnyddwyr ag unrhyw gyflymder cysylltiad gwe eu gwylio, gallai byffro ddigwydd os yw'r cysylltiad gwe'n araf. I leihau'r broblem, caewch unrhyw raglenni eraill a allai fod yn defnyddio'r cysylltiad gwe.

Yn ôl i'r brig

Pam fod y chwaraewr yn byffro?

Mae gwe-ddarllediadau wedi'u hamgodio ac mae modd eu gweld waeth beth fo cyflymder y cysylltiad â'r we, ond achosir byffro'n bennaf gan gysylltiad rhwydwaith araf. Gall cysylltiadau ADSL hefyd achosi byffro, gan fod pob llinell ADSL yn cael ei rhannu gan sawl defnyddiwr. Mae hyn yn golygu y gall y cysylltiad arafu ar adegau prysur. I leihau'r broblem, caewch unrhyw raglen arall a allai fod yn defnyddio cysylltiad â'r we.

Yn ôl i'r brig

Sut gallaf ei weld ar sgrîn lawn?

Dewiswyd maint ffenestr y fideo yn y Chwaraewr i gydbwyso rhwyddineb defnyddio ac ansawdd y llun. Mae modd rhoi'r fideo ar sgrîn lawn drwy ddewis yr eicon chwyddo neu bwyso bysell 'f'.

Yn ôl i'r brig

Pam nad ydynt yn gweithio ar fy nghyfrifiadur gwaith?

Os ydych yn gwylio o fewn rhwydwaith gorfforaethol, mae hi'n bosibl nad yw eich cyfrifiadur wedi ei osod fyny i ganiatau gweddarlledu. Cysylltwch â gweinyddydd eich rhwydwaith os cewch unrhyw broblemau.

Yn ôl i'r brig