Cartref - Gweddarllediadau Cyngor Gwynedd
Beth sydd ymlaen heddiw
We-Ddarlledu Diweddar
Pwyllgor Craffu Gofal
16/07/2026 10.00 y.b.
Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
14/07/2026 10.30 y.b.
Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Pwyllgor Cynllunio
13/07/2026 1.00 y.h.
Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Croeso
Byddwn yn gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor Llawn, y Pwyllgor Cynllunio (pan cynhelir y cyfarfod yng Nghaernarfon) ac unrhyw bwyllgor arall sy'n debygol o fod o ddiddordeb i’r cyhoedd
Yma, bydd posib i chi wylio gweddarllediadau o gyfarfodydd byw a chyfarfodydd wedi’u harchifo.
Beth yw gweddarllediad? Ystyr gweddarlledu yw darlledu fideo a sain ar y rhyngrwyd a bydd modd i'r sawl sydd am wylio wneud hynny drwy fynd i wefan y Cyngor.
Sut ydw i'n gwylio gweddarllediad? Os oes gennych gysylltiad â'r rhyngrwyd gallwch wylio'r cyfarfodydd heb adael eich cartref. Gallwch wylio'r cyfarfodydd wrth iddynt ddigwydd ac am hyd at 6 mis wedi hynny. Hefyd, ar dudalen y gweddarllediad fe welwch ddolenni i raglen ac adroddiadau'r cyfarfod rydych chi'n ei wylio a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi ynghylch y materion a drafodir.
Archif Cyfarfodydd: Os ydych wedi methu cyfarfod neu os ydych am wylio rhan neu'r cyfan o gyfarfod eto, gallwch wneud hynny am hyd at chwe mis wedi dyddiad y cyfarfod. Mae'r pwyntiau mynegai yn caniatáu i chi fynd i eitem benodol ar yr agenda neu fynd i siaradwr penodol.
Adborth: Gallwch gyflwyno sylwadau ac adborth ynghylch y gweddarllediadau drwy ddefnyddio'r ffurflen adborth ar waelod tudalen y gweddarllediad.
Pan fyddwn wedi dechrau gweddarlledu, bydd posib gweld rhestr o gyfarfodydd diweddar a rhai'r dyfodol ar ochr dde'r dudalen hon. Cliciwch ar deitl y cyfarfod rydych chi am ei wylio. Er mwyn gweld cyfarfodydd cynharach, dewiswch y ddolen isod;
Er mwyn gwylio gweddarllediadau ar ôl y cyfnod 6 mis cysylltwch â: gwasanaethdemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru
Beth allaf ddisgwyl gweld? Wrth wylio gweddarllediad o gyfarfod y Cyngor Llawn neu bwyllgor, bydd y drefn yn ddieithr i rai sydd heb arfer ymwneud â hi.
- Y person mwyaf amlwg yn y gweddarllediad fydd cadeirydd y cyfarfod, sydd yn gyfrifol am lywio’r drafodaeth ac arwain y cynghorwyr i ddod i benderfyniad. Gallai hynny olygu dod i gonsensws y mae pawb yn gytun ag ef neu, yn fwy ffurfiol, drwy ystyried cynigion a gwelliannau penodol fydd wedi eu cynnig gan gynghorwyr unigol.
- Bydd lefel y ffurfioldeb yn amrywio o un cyfarfod i’r llall. Mewn cyfarfodydd o’r Cyngor llawn, mae disgwyl i gynghorwyr a swyddogion sefyll i siarad ond mae’r awyrgylch mewn cyfarfodydd eraill yn llai ffurfiol er mwyn annog trafodaeth, megis yn y pwyllgorau craffu.
- Mae rheolau trafod yn rheoli holl gyfarfodydd y Cyngor gyda threfniadau lle mae disgwyl i gynghorwyr a swyddogion siarad “drwy’r cadeirydd” a chyfyngiad hefyd yn medru cael ei weithredu ar y nifer o droeon y mae cynghorydd yn cael siarad ar unrhyw fater.
- Bydd y cynghorwyr yn eistedd o gwmpas y siambr ond, yn ogystal â’r cynghorwyr eu hunain, bydd rhai swyddogion proffesiynol a, weithiau, unigolion a wahoddwyd i siarad, yn cyfrannu at y trafodaethau i gynorthwyo’r cyfarfod i ddod i gasgliad ar fater.
- Mae’r mwyafrif o’r cynghorwyr bellach yn derbyn eu rhaglenni ar gyfrifiaduron tabled sydd yn dal holl waith papur y cynghorydd ac yn medru cael ei ddefnyddio ar gyfer nodi sylwadau ond fe welir rhai cynghorwyr yn dal i ddefnyddio copiau papur o’r rhaglenni
Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach am y drefn a'r hyn sy'n digwydd, cysylltwch â: gwasanaethdemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru
Tanysgrifio
Tanysgrifiwch i gael gwybod drwy e-bost am weddarllediadau i ddod sydd o bwys i chi